Gofal maeth seibiant

Mae David a Tracey Willard o Fynyddcerrig wedi bod yn darparu gofal maeth seibiant ers 2015. Dyma eu stori.

Ar ôl blynyddoedd o gynllunio’n ofalus, fe wnaeth Tracey a minnau ymddeol a symud i Gymru yn 2015 gyda’r gobaith i gael ymlacio a chael bywyd o arddio, DIY a theithio. Fodd bynnag, ar ôl ychydig o fisoedd, roedd y ddau ohonom yn teimlo efallai y dylem edrych am rywbeth arwyddocaol i’w wneud gyda’n hamser rhydd. Gan fod y ddau ohonom wedi ymwneud â gofal cyn ymddeol dechreuon ni feddwl sut gallwn ddefnyddio’r profiad hwn i gefnogi eraill.

Ar daith adref o Gaerfyrddin un diwrnod gwelsom hysbyseb gan Gyngor Caerfyrddin a oedd yn chwilio am bobl a diddordeb mewn cefnogi plant trwy ddod yn ofalwyr maeth.

Dyna pryd y dechreuon ni feddwl efallai mai hwn oedd y cyfle roedden ni’n edrych amdano, ac felly cysyllton ni â’r tîm maethu ac ar ôl trafodaeth fer cawsom ein gwahodd i noson wybodaeth.

Yn dilyn y noson wybodaeth, aethom ar raglen sefydlu tri diwrnod ynghylch dod yn ofalwyr maeth, ac er ein bod yn awyddus i symud ymlaen i ddod yn ofalwyr maeth, roedd gennym bryderon o hyd ynghylch ai hwn oedd y penderfyniad gorau i ni.

Fodd bynnag, ar drydydd diwrnod y rhaglen roedd y ddau ohonom yn teimlo y gallen gydbwyso’r cyfrifoldebau o fod yn ofalwyr maeth â’n cyfrifoldebau o ran ein teulu a’n nodau personol, trwy ddod yn ofalwyr seibiant.

Yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arnom oedd y gefnogaeth oedd ar gael, strwythur tîm Cyngor Caerfyrddin a’r holl hyfforddiant dwys sydd ar gael, ar ôl i chi gael eich cymeradwyo.

Ar ôl ychydig o fisoedd o gyfweliadau a geirdaon, roeddem yn barod i fynd o flaen panel i gael ein cymeradwyo ac unwaith aethom drwy’r broses hon, cawsom ein cofrestru i ddarparu gofal seibiant.

Fel ym mhob sefyllfa newydd, rydych yn dechrau amau eich galluoedd dim ond wrth ddefnyddio’r sgiliau newydd hyn am y tro cyntaf. Fodd bynnag, roedd gennym fentor ardderchog y gallem gysylltu ag ef i gael cymorth yn ogystal â’n gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, a chymorth ychwanegol gan y tîm a oedd yn gweithio y tu allan i’r oriau arferol.

Felly, ar ôl hynny cawsom ein lleoliad cyntaf, sef mam a baban newydd-anedig. Roeddem yn teimlo fel dechreuwyr newydd mewn unrhyw swydd – nerfus, diffyg hyder a gofyn pam roedden ni’n ein rhoi drwy’r straen, ond wyddoch chi beth, roedd yn iawn. Roedd y fam a’r baban yn hyfryd ac aeth ein nerfau a’n pryderon a dechreuon ni fwynhau ein hunain. Roedd yn ffurfiol, ond roedd gan y ddau ohonom sgiliau rhyngbersonol, gafael ar iaith gyffredin ac roeddem i gyd eisiau’r canlyniad gorau.

Felly roedd ein taith wedi cychwyn, ond nid oedd yn ymwneud â gofalu am eraill yn unig. Daethom yn ymwybodol o’n diffygion ein hunain ac felly dechreuon ni fynd i’r hyfforddiant helaeth oedd bellach ar gael i ni, ac fel y dysgais dros y blynyddoedd, wrth ddysgu mwy rydych yn sylweddoli cyn lleied yr oeddech yn ei wybod. Roedd yr hyfforddiant ei hun yn ardderchog, ond trwy hynny cawsom gysylltiad â gofalwyr maeth eraill hefyd ac roedd hynny yr un mor bwysig â’r hyfforddiant. Rhannon nhw eu profiadau eu hunain a rhoddon nhw gyngor gwerthfawr i Tracey a minnau, y gwnaethom elwa o hynny’n fawr iawn.

Dair blynedd yn ddiweddarach, rydym wedi cael y pleser o ofalu am blant o bob oedran a chefndir ac yn ddiweddaraf plant gydag anghenion meddygol cymhleth, yn ogystal â chael cyfarfod llawer o unigolion o’r un feddylfryd y mae lles plant yn wirioneddol bwysig iddyn nhw.  Rydym yn aml yn meddwl am ein taith o ddod yn ofalwyr maeth a’r bobl rydym wedi’u cyfarfod, ac rydym yn rhyfeddu bob amser at gymaint o bleser a boddhad personol rydym yn eu cael trwy fod yn ofalwyr maeth.