Ardal Leol: Sir Benfro
Mae Maethu Sir Benfro yn dymuno recriwtio Gofalwyr Maeth sy’n ofalgar, wydn, ymroddedig, ymatebol ac yn llawn cymhelliant, gydag ystafell wely sbâr. A ydych chi’n barod ar gyfer yr her? Os felly cysylltwch â:
Maethu Sir Benfro,
Tîm Lleoli â Theuluoedd,
Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Argyle Street,
Doc Penfro.
SA72 6HL.
Ffôn: 01437 774650
Ebost: fostering@pembrokeshire.gov.uk
Gwefan: www.sir-benfro.gov.uk/maethu
Facebook: www.facebook.com/pembsfostering
Oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu, ac efo ystafell sbar? #fosterforpembs

Y mis hwn, mae Cyngor Sir Penfro yn dathlu cyflawniadau meibion a merched gofalwyr maeth drwy dynnu sylw at y cyfraniad enfawr y maent yn ei wneud i faethu.
Mae cymryd y cam i ddod yn ofalwyr maeth yn effeithio ar bawb yn y teulu – mae meibion a merched yn rhan fawr o’r broses hefyd, yn ogystal â’r rhieni sy’n maethu.
Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad gwerth chweil i blant y mae eu rhieni yn maethu, ac mae’n eu helpu i ddeall yr heriau y mae plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn eu hwynebu.
Os ydych chi’n credu y gall eich teulu chi gynnig y cariad, y diogelwch a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar blentyn maeth, ac os oes gennych ystafell sbâr, byddai ein tîm maethu yn hoffi clywed gennych.
Codwch y ffôn heddiw a siaradwch ag aelod o’n tîm cyfeillgar ar 01437 774650 neu ewch i’n gwefan www.sir-benfro.gov.uk/maethu i ddysgu mwy.
Dyma yw Maethu
Mae arnom angen mwy o ofalwyr maeth yn Sir Benfro ar fyrder er mwyn i ni allu cadw plant Sir Benfro yn Sir Benfro.
Os tybiwch fod gennych y sgiliau a’r profiad i ddod yn ofalwr maeth ac y gallech helpu cynnal plant agored i niwed, cysylltwch â’n tîm maethu ar 01437 77650 neu e-bostiwch: fostering@pembrokeshire.gov.uk
Pum cam syml i faethuI gael mwy o wybodaeth: www.sir-benfro.gov.uk/maethu
#Pythefnosgofalmaeth #maethudrossirbenfro #maethusirbenfro #dymaywmaethu #PGM20




Cynllun Llety â Chymorth
Mae’r Cynllun Llety â Chymorth yn Sir Benfro yn anelu ar bontio’r bwlch i fyw’n annibynnol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal maeth. Nod y cynllun yw rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r sefydlogrwydd emosiynol fydd arnynt eu hangen i gymryd y cam i fyd oedolion, ac i wneud llwyddiant o fyw’n annibynnol.
Latest News and Events in Pembrokeshire:

Coronafeirws a Fi: Holiadur Cenedlaethol i Blant a Phobl ifanc yng Nghymru
Rwyt ti wedi bod yn aros adref i aros yn ddiogel dros yr wythnosau diwethaf. Mae pobl sy’n medru helpu i wneud gwahaniaeth i dy fywyd eisiau gwrando ar dy farn am sut mae hyn wedi gwneud i ti deimlo a’r effaith mae gorfod gwneud hyn oherwydd y Coronafeirws wedi cael ar dy fywyd. Mae’r […]

Wythnos Gofal gan Berthynas: 5-11 Hydref 2020
Yr wythnos ‘ma, mae Cyngor Sir Penfro yn dathlu Wythnos Gofal gan Berthynas Beth yw gofal gan berthynas? Mae gofal gan berthynas yn dechrau yn aml gydag argyfwng teuluol, gyda phlentyn na all ei rieni ofalu amdano bellach. Pan mae anwylyd yn camu i’r bwlch – mamgu neu dadcu, brawd, chwaer, modryb, ewythr neu ffrind […]

Pum cam syml i faethu
1. Siarad â ni Codwch y ffôn a siaradwch ag aelod o’n tîm maethu cyfeillgar ar 01437 774650. Dysgwch sut y gallwn eich helpu i ddechrau eich siwrnai i faethu. Byddwn yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau ac amlinellu’r broses faethu. 2. Cyfarfod â ni Os byddwch yn penderfynu cymryd y cam nesaf, […]

Lansio’r Fframwaith Dysgu a Datblygu ar ôl cael cymeradwyaeth
Un o ffrydiau gwaith y Fframwaith Maethu Cenedlaethol fu datblygu’r Fframwaith Dysgu a Datblygu ar gyfer Gofalwyr Maeth. Arweiniodd y Rhwydwaith Maethu ac AFA Cymru y broses o ddatblygu Fframwaith Dysgu a Datblygu. Cafwyd ymgynghori helaeth â gofalwyr maeth a staff ledled Cymru a wnaeth gyfraniad sylweddol at ddatblygu’r gwaith hwn. Pwrpas y Fframwaith Dysgu […]

Cydweithio i wella dyfodol plant mewn gofal maeth
Mae gwella dyfodol plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn rhan ganolog o bartneriaeth ranbarthol newydd. Mae gwasanaethau maethu o bedwar awdurdod lleol sef Sir Gaerfyrddin, Powys, Ceredigion a Sir Benfro wedi dod ynghyd i sefydlu Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Nod y bartneriaeth yw cydweithio â phlant lleol i greu partneriaeth gref ac, […]

Noson Wybodaeth yn Sir Benfro
Ydych chi wedi ystyried gyrfa fel Gofalydd Maeth neu Ddarparwr Llety Chefnogaeth? Dewch Draw i ddysgu mwy yn ein Noson Wybodaeth:

Bydd Pythefnos Gofal Maeth 2019 yn digwydd rhwng 13 a 26 Mai
Dyma ymgyrch flynyddol i godi proffil maethu a dangos sut y mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. I lansio dechrau Pythefnos Maethu, bydd tîm Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru ym Mharc Dinefwr, Llandeilo, rhwng 11.00am a 3.00pm ddydd Sadwrn 11 Mai. #NewidyDyfodol Cofiwch bod modd cwrdd ag aelodau ein tîm maethu yn yr Hwbiau gwahanol o fewn Sir Gâr […]

Dynion sy’n maethu
Gall bod yn ofalwr maeth roi boddhad enfawr, ond gall beri straen emosiynol mawr hefyd, ac er mwyn gwneud bydd angen gweithio fel rhan o dîm yn ogystal â meddu ar wytnwch a’r gallu i adeiladu ar sylfaen o hyfforddiant a phrofiad. I nifer o blant sy’n derbyn gofal, byw gyda gofalwr maeth gwrywaidd fydd […]

Ella a Rhys
Mae’n anodd credu bod 11 mlynedd ers i ni ddechrau maethu. Roeddwn i bob amser wedi meddwl y byddwn yn hoffi maethu plant, ond fe gymrodd tipyn o flynyddoedd i mi berswadio Rhys. Roedd ein plant ni wedi tyfu i fyny, ac o bosib roeddwn yn teimlo’r gwacter yn y tŷ – syndrom y nyth […]

Noson Maethu yn Cafe Rio
Am ragor o fanylion dewch i’n noson wybodaeth ar Mawrth 13 yn Cafe Rio, Quay Street, Hwlffordd, 5 – 7.30pm. Os ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod a diddordeb, dewch a nhw i gwrdd a ni.