Enghreifftiau Byw o Faethu

Rydw i a’m gŵr wedi bod yn maethuers dwy flynedd bellach, a rydym yn difaru peidio cychwyn ynghynt.

Dyma blant maeth yn rhannu eu profiadau o ofalwyr maeth Sir Gaerfyrddin.
*Sylwch fod plant sy’n actorion wedi’u defnyddio at ddibenion y ffilmiau.

 

Ar ôl blynyddoedd o gynllunio’n ofalus, fe wnaeth Tracey a minnau ymddeol a symud i Gymru yn 2015 gyda’r gobaith i gael ymlacio a chael bywyd o arddio, DIY a theithio. Fodd bynnag, ar ôl ychydig o fisoedd, roedd y ddau ohonom yn teimlo efallai y dylem edrych am rywbeth arwyddocaol i’w wneud gyda’n hamser rhydd. Gan fod y ddau ohonom wedi ymwneud â gofal cyn ymddeol dechreuon ni feddwl sut gallwn ddefnyddio’r profiad hwn i gefnogi eraill.

Ar daith adref o Gaerfyrddin un diwrnod gwelsom hysbyseb gan Gyngor Caerfyrddin a oedd yn chwilio am bobl a diddordeb mewn cefnogi plant trwy ddod yn ofalwyr maeth. Dyna pryd y dechreuon ni feddwl efallai mai hwn oedd y cyfle roedden ni’n edrych amdano, ac felly cysyllton ni â’r tîm maethu ac ar ôl trafodaeth fer cawsom ein gwahodd i noson wybodaeth.

Yn dilyn y noson wybodaeth, aethom ar raglen sefydlu tri diwrnod ynghylch dod yn ofalwyr maeth, ac er ein bod yn awyddus i symud ymlaen i ddod yn ofalwyr maeth, roedd gennym bryderon o hyd ynghylch ai hwn oedd y penderfyniad gorau i ni.

Fodd bynnag, ar drydydd diwrnod y rhaglen roedd y ddau ohonom yn teimlo y gallen gydbwyso’r cyfrifoldebau o fod yn ofalwyr maeth â’n cyfrifoldebau o ran ein teulu a’n nodau personol, trwy ddod yn ofalwyr seibiant.

Yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arnom oedd y gefnogaeth oedd ar gael, strwythur tîm Cyngor Caerfyrddin a’r holl hyfforddiant dwys sydd ar gael, ar ôl i chi gael eich cymeradwyo.

Ar ôl ychydig o fisoedd o gyfweliadau a geirdaon, roeddem yn barod i fynd o flaen panel i gael ein cymeradwyo ac unwaith aethom drwy’r broses hon, cawsom ein cofrestru i ddarparu gofal seibiant.

Fel ym mhob sefyllfa newydd, rydych yn dechrau amau eich galluoedd dim ond wrth ddefnyddio’r sgiliau newydd hyn am y tro cyntaf. Fodd bynnag, roedd gennym fentor ardderchog y gallem gysylltu ag ef i gael cymorth yn ogystal â’n gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, a chymorth ychwanegol gan y tîm a oedd yn gweithio y tu allan i’r oriau arferol.

Felly, ar ôl hynny cawsom ein lleoliad cyntaf, sef mam a baban newydd-anedig. Roeddem yn teimlo fel dechreuwyr newydd mewn unrhyw swydd – nerfus, diffyg hyder a gofyn pam roedden ni’n ein rhoi drwy’r straen, ond wyddoch chi beth, roedd yn iawn. Roedd y fam a’r baban yn hyfryd ac aeth ein nerfau a’n pryderon a dechreuon ni fwynhau ein hunain. Roedd yn ffurfiol, ond roedd gan y ddau ohonom sgiliau rhyngbersonol, gafael ar iaith gyffredin ac roeddem i gyd eisiau’r canlyniad gorau.

Felly roedd ein taith wedi cychwyn, ond nid oedd yn ymwneud â gofalu am eraill yn unig. Daethom yn ymwybodol o’n diffygion ein hunain ac felly dechreuon ni fynd i’r hyfforddiant helaeth oedd bellach ar gael i ni, ac fel y dysgais dros y blynyddoedd, wrth ddysgu mwy rydych yn sylweddoli cyn lleied yr oeddech yn ei wybod. Roedd yr hyfforddiant ei hun yn ardderchog, ond trwy hynny cawsom gysylltiad â gofalwyr maeth eraill hefyd ac roedd hynny yr un mor bwysig â’r hyfforddiant. Rhannon nhw eu profiadau eu hunain a rhoddon nhw gyngor gwerthfawr i Tracey a minnau, y gwnaethom elwa o hynny’n fawr iawn.

Dair blynedd yn ddiweddarach, rydym wedi cael y pleser o ofalu am blant o bob oedran a chefndir ac yn ddiweddaraf plant gydag anghenion meddygol cymhleth, yn ogystal â chael cyfarfod llawer o unigolion o’r un feddylfryd y mae lles plant yn wirioneddol bwysig iddyn nhw. Rydym yn aml yn meddwl am ein taith o ddod yn ofalwyr maeth a’r bobl rydym wedi’u cyfarfod, ac rydym yn rhyfeddu bob amser at gymaint o bleser a boddhad personol rydym yn eu cael trwy fod yn ofalwyr maeth.
Mae David a Tracey Willard o Fynyddcerrig wedi bod yn darparu gofal maeth seibiant ers 2015.

Os ydych chi erioed wedi ystyried maethu, peidiwch ystyried rhagor, cofrestrwch nawr.

Rydw i a’m gŵr wedi bod yn maethuers dwy flynedd bellach, a rydym yn difaru peidio cychwyn ynghynt. Mae na alw cyson am rhieni maeth newydd, yn enwedig i bobl ifanc yn eu harddegau, a medrwch gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn.

Cyn i mi wneud cais, roeddwn yn gofidio am bob peth allech chi ystyried, yna wnes i ofidio mwy! Roedd fy ffrindiau yn gefnogol ac yn gweud fyddwn yn arbennig, ac roedd fy mhlant yn gweud yr un peth, ond roeddwn yn gofidio na fydden yn ddigon da, a fyddwn yn gwneud cam a phlentyn oedd yn barod wedi dioddef trawma. Roeddwn yn pryderu heb angen….. ydw, rwyf yn gwneud camgymeriadau, ac yn aml yn teimlo gallwn wedi trin ȃ sefyllfa yn well, ond mae na wastad rhywun yna i drafod ac i’m cefnogu bob cam o’r daith.

Mae ‘na heriau wrth faethu, yn union fel sydd ‘na mewn unrhyw waith arall, ond os allwch chi gynnal eich hiwmor, bod heb rhagfarn a bod yn gyson yn eich ymateb, allwch oresgyn yr heriau, a chewch boddhad yn ôl ganwaith!! Ni allwch ddychmygu y teimlad o glywed plenty a fu gynt yn dawel a ddiymateb yn chwerthin, neu’r balchder o dderbyn adroddiad ysgol da, neu hyd yn oed y diolch syml, ac ar ben hyn i gyd gewch trefnu penblwyddi, Nadolig, Pasg a gymaint o bethau eraill sydd llawn hwyl!!

Dydw i ddim yn gweud for maethu yn hawdd… dyw e ddim, a dyw e ddim i bawb, ond os nad yw e i chi, fyddwch chi wedi darganfod hyn ymhell cyn i blentyn ddod i fyw atoch….. beth sydd gennych i golli? … cymerwch y cyfle , ymgeisiwch nawr…. ‘sdim i golli, ac efallai (fel fi) newch chi ddarganfod mae dyma’r peth orau fyddwch erioed wedi gwneud. Stori Maeth Anita a Phil

Rwy’n mwynhau cael cwmni’r plant yr ydym yn eu maethu. Yn benodol, rwy’n hoffi pan fyddant yn dod cyn cael eu mabwysiadu a bod yn rhan o’r broses fabwysiadu. Mae cael dysgu pethau newydd i’r rhai bach a threulio amser gyda nhw yn wych. Rwy’n rhan o’r grŵp meibion a merched, sy’n grŵp ar gyfer meibion a merched gofalwyr maeth, lle gallwn wneud gwahanol weithgareddau a siarad â phlant eraill y mae eu rhieni’n maethu. Os oes unrhyw bryderon gennym, gallwn eu trafod â phlant eraill sy’n deall.Ellie, merch gofalwr maeth
Peidiwch ag oedi, darganfyddwch sut y gallech wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd plentyn neu berson ifanc yn Canolbarth a Gorllewin Cymru heddiw!