Rwyt ti wedi bod yn aros adref i aros yn ddiogel dros yr wythnosau diwethaf.
Mae pobl sy’n medru helpu i wneud gwahaniaeth i dy fywyd eisiau gwrando ar dy farn am sut mae hyn wedi gwneud i ti deimlo a’r effaith mae gorfod gwneud hyn oherwydd y Coronafeirws wedi cael ar dy fywyd.
Mae’r holiadur yma wedi cael ei ysgrifennu gan sefydliadau yma gyda help oddi wrth blant a phobl ifanc:
- Llywodraeth Cymru
- Comisiynydd Plant Cymru
- Plant yng Nghymru
- Senedd Ieuenctid Cymru
Mae’r holiadur yn cau ar Ionawr 29 felly cwblha’r ddogfen cyn gynted ag sy’n bosibl.