Lansio’r Fframwaith Dysgu a Datblygu ar ôl cael cymeradwyaeth

Un o ffrydiau gwaith y Fframwaith Maethu Cenedlaethol fu datblygu’r Fframwaith Dysgu a Datblygu ar gyfer Gofalwyr Maeth.    Arweiniodd y Rhwydwaith Maethu ac AFA Cymru y broses o ddatblygu Fframwaith Dysgu a Datblygu.  Cafwyd ymgynghori helaeth â gofalwyr maeth a staff ledled Cymru a wnaeth gyfraniad sylweddol at ddatblygu’r gwaith hwn.    Pwrpas y Fframwaith Dysgu a Datblygu yw cynnig safon uchel gyson o hyfforddiant ar ôl cael cymeradwyaeth i holl ofalwyr maeth awdurdodau lleol ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, ceir amrywiadau o ran arferion lleol mewn dysgu a datblygu rhwng awdurdodau lleol; yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydym yn falch o fod wedi bod yn cynnig safon uchel ers blynyddoedd lawer.

Mae datganiad Dysgu a Datblygu gweledigaeth y Fframwaith Maethu Cenedlaethol yn nodi “Mae Teuluoedd Maeth yng Nghymru yn cael cynnig cyfleoedd dysgu gwych sy’n diwallu eu hanghenion proffesiynol a phersonol, yn adlewyrchu eu profiad cynyddol ac yn eu cefnogi nhw i ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc”

  • Egwyddor 1 – Mae fframwaith dysgu a datblygu ar ôl cael cymeradwyaeth y Fframwaith Maethu Cenedlaethol yn llunio rhan o’r llwybr datblygu proffesiynol ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru, sy’n cael eu cydnabod fel rhan o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru”
  • Egwyddor 2 – “Mae dysgu a datblygu ar ôl cael cymeradwyaeth yn darparu cyfleoedd i ofalwyr maeth a’u teuluoedd elwa ar brofiadau dysgu a rennir, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol fel rhan o’r tîm o amgylch y plentyn.”
  • Egwyddor 3 – “Mae gan hyfforddiant ar ôl cael cymeradwyaeth ansawdd a chynnwys cyson. Mae gofalwyr maeth yn berchen ar y cyfrifoldeb am eu cymhelliant i ddatblygu a chyflawni nodau dysgu personol”

L & D Powys Launch 30/01/2020

 

aunch of the Post Approval Learning and Development Framework
Mae Tîm Lleoliadau Teuluol Sir Benfro wedi lansio Fframwaith Dysgu a Datblygu Ôl-gymeradwyo ar gyfer Gofalwyr Maeth yn ddiweddar, a hynny yn ystod Bore Coffi Crefftau’r Nadolig a gynhaliwyd ddydd Mercher 20 Tachwedd. Mae’r fenter hon yn un o ffrydiau gwaith y Fframwaith Maethu Cenedlaethol (NFF), sy’n ceisio rhoi sylfaen i ddull cenedlaethol o ddarparu dysgu a datblygu ar gyfer gofalwyr maeth ledled Cymru.

 

Cydweithio i wella dyfodol plant mewn gofal maeth

Mae gwella dyfodol plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn rhan ganolog o bartneriaeth ranbarthol newydd.

Mae gwasanaethau maethu o bedwar awdurdod lleol sef Sir Gaerfyrddin, Powys, Ceredigion a Sir Benfro wedi dod ynghyd i sefydlu Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Nod y bartneriaeth yw cydweithio â phlant lleol i greu partneriaeth gref ac, yn y pen draw, gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc mewn gofal maeth. Y neges allweddol yw Gofalwyr Lleol, Plant Lleol, Gwasanaethau Lleol.

Mae gwefan maethu rhanbarthol newydd wedi cael ei lansio ynghyd â Siarter Gofalwyr Maeth sy’n nodi’r weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Mid and West Wales Foster workshop

Cafodd ei lansio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne ac roedd yn ddathliad o waith ac ymrwymiad gwych staff yr awdurdod lleol, gofalwyr maeth a’u teuluoedd ledled y pedwar rhanbarth.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangosiad o’r wefan newydd i helpu i recriwtio gofalwyr maeth ledled y rhanbarth; a chafodd gofalwyr maeth gyfle i rannu straeon am eu teithiau gofal maeth personol.

Dywedodd y Cyng. Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Addysg a Gwasanaethau Plant:  “Mae dull rhanbarthol yn dwyn ynghyd brofiad a llwyddiant ein gwasanaethau maethu unigol er mwyn caniatáu i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd a gwella cyfleoedd recriwtio a hyfforddiant ar gyfer maethu ledled y rhanbarth.

“Mae Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn angerddol am ddarparu cartrefi sefydlog sy’n meithrin plant a phobl ifanc ac yn ymrwymedig i hynny. Maen nhw’n darparu hyfforddiant arbenigol a chymorth dydd a nos i’r timau rhagorol o ofalwyr maeth a’u teuluoedd.

“Mae angen tosturi, synnwyr digrifwch, hyblygrwydd a meddwl agored i faethu ac mae Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lwcus iawn bod ganddyn nhw gynifer o ofalwyr maeth ardderchog i helpu ein plant a’n pobl ifanc i ddatblygu i fod yn unigolion annibynnol, hyderus a hapus, gyda dewisiadau ardderchog ynghylch eu bywydau o’u blaenau.”

Regional Foster launch with cake

Dywedodd y Cyng. Rachel Powell, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys: “Roedd yn bleser mawr bod yn bresennol yn y digwyddiad hwn, a chlywed cymaint o hanesion rhyfeddol o’r pedwar rhanbarth a oedd yn pwysleisio mor bwysig yw ein gofalwyr maeth a’r rôl broffesiynol, unigryw maen nhw’n ei chyflawni i’n pobl ifanc mae angen i ni ofalu amdanynt.

“Mae cynifer o resymau dilys dros fod yn ofalwr maeth ac fel rhan o lansiad Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru, rydym yn croesawu rhagor o drafodaethau gydag unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth.  Mae’r rhagdybiaeth eich bod yn gorfod bod yn rhan o deulu dau riant er mwyn bod yn ofalwr maeth yn anghywir. Mae maethu yn cynnwys unigolion unigryw sy’n angerddol ac sydd wirioneddol am gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod eu taith gydol oes, sy’n gallu bod yn foddhaol iawn.”

Dywedodd y Cyng. Catherine Hughes, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Plant Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth ranbarthol; rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl ifanc mewn gofal maeth a gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi’n llwyr.

“Bydd y wefan newydd yn adnodd ardderchog i ofalwyr maeth presennol a hefyd i unrhyw un sy’n ystyried rhoi cynnig ar faethu – mae’n werth edrych arni.”

Dywedodd y Cyng. Tessa Hodgson, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro: “Mae gofalwyr maeth yn rhoi gwasanaeth hanfodol i blant a phobl ifanc ledled y rhanbarth. Gall lleoliad maeth sefydlog, llawn cariad drawsnewid bywyd #NewidyDyfodol.

“Bydd y gwaith rhanbarthol a’r bartneriaeth gref newydd hon yn helpu i ddarparu lleoliadau a chefnogaeth hanfodol i deuluoedd maeth.”

Ewch i’r wefan maethu.canolbarthagorllewin.cymru i gael rhagor o wybodaeth am fod yn ofalwr maeth yn eich ardal lleol, ac i weld astudiaethau achos a newyddion.

 

Bydd Pythefnos Gofal Maeth 2019 yn digwydd rhwng 13 a 26 Mai

#changeafuture

Dyma ymgyrch flynyddol i godi proffil maethu a dangos sut y mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. I lansio dechrau Pythefnos Maethu, bydd tîm Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru ym Mharc Dinefwr, Llandeilo, rhwng 11.00am a 3.00pm ddydd Sadwrn 11 Mai. #NewidyDyfodol

Cofiwch bod modd cwrdd ag aelodau ein tîm maethu yn yr Hwbiau gwahanol o fewn Sir Gâr yn ystod pythefnos maethu. Rydym yno rhwng 9 yb a 1yp. Mae’r Hwb yn Rhydaman yn 41 Quay Street, Llanelli yn 36 Heol Stepney a Caerfyrddin o fewn swyddfa’r Cyngor Sir yn Stryd Spillman. Mae Cal yr Arth Maethu wedi bod yn ymddangos hefyd, felly gallwch I gael sgwrs anffurfiol gyda aelodau’r tîm, rydym yn edrych ymlaen I’ch gweld chi.


Bydd tîm Maethu Canolbarth a Gorllewin Cymru ym Mharc Dinefwr, Llandeilo:

Dynion sy’n maethu

Father with girls paintingGall bod yn ofalwr maeth roi boddhad enfawr, ond gall beri straen emosiynol mawr hefyd, ac er mwyn gwneud bydd angen gweithio fel rhan o dîm yn ogystal â meddu ar wytnwch a’r gallu i adeiladu ar sylfaen o hyfforddiant a phrofiad.

I nifer o blant sy’n derbyn gofal, byw gyda gofalwr maeth gwrywaidd fydd eu profiad positif cyntaf gydag oedolyn gwrywaidd.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad hyfforddi llwyddiannus gan Dîm Maethu Sir Benfro, a hynny ar gyfer Dynion sy’n Maethu. Gyda’i gilydd, roedd gan y cyfranwyr dros 67 mlynedd o brofiad wrth faethu, a chafodd y rhai a fynychodd gyfle gwerthfawr i rannu themâu cyffredin ac i drafod materion o safbwynt gwrywaidd. Mae sesiynau eraill wedi cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn gobeithio y bydd y cysylltiadau yma’n cyfrannu at y gefnogaeth bresennol, gan greu cyfleoedd i fentora ac i rannu gweithgareddau.

Os oes gennych chi ddiddordeb neu eisiau rhagor o fanylion ynglŷn â maethu, ffoniwch y tîm maethu trwy alw 01437 774650. Cofiwch fod maethu’n newid bywydau – gallech chi wneud gwahaniaeth.

Ella a Rhys

Baby holding handsMae’n anodd credu bod 11 mlynedd ers i ni ddechrau maethu. Roeddwn i bob amser wedi meddwl y byddwn yn hoffi maethu plant, ond fe gymrodd tipyn o flynyddoedd i mi berswadio Rhys. Roedd ein plant ni wedi tyfu i fyny, ac o bosib roeddwn yn teimlo’r gwacter yn y tŷ – syndrom y nyth gwag. Fe ddewisom faethu oherwydd ein bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn.

Cawsom ein cymeradwyo i faethu plant hŷn ar leoliad tymor byr, er bod ein prif rôl bellach wedi datblygu i gynnig lleoliadau i Fam a’i babi, ac rydym yn mwynhau hyn yn arw. Mae’r rôl hon yn gweithio’n dda i ni fel teulu gan fod y lleoli wedi ei gynllunio ac am gyfnod amser penodol. Rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r “mamau”, ac yn medru cynorthwyo heb ymlynu’n ormodol.

Gan fwyaf, cefnogi’r fam gyda sgiliau bywyd fydda i, eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau doeth a da a bod yno ar eu cyfer i’w harwain a’u cefnogi. Yr allwedd yw ennyn eu hymddiriedaeth, a gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus yn ein cartref, a’u bod yn hapus i ofyn am gyngor a lleisio unrhyw bryderon fyddai ganddynt.

Mae’n teulu ni wedi bod yn wych, gyda’r plant yn hynod gefnogol. Mae’n wyrion a’n wyresau wedi hen arfer gyda phobl yn mynd a dod, ac rydym bob amser yn annog y mamau ifanc i ymuno yn ein gweithgareddau teuluol.

Mae ein tŷ ni bob amser yn brysur, a’r tegell yn berwi drwy’r dydd, gan fod gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill yn galw’n rheolaidd.

Mae gan bob mam sydd wedi bod gyda ni ei stori, ac maent bob amser yn gadael eu hargraffiadau arnom, a does dim byd yn well gennym na gweld y mamau yn cael mynd â’u babanod adref gyda nhw.

Rwyf wedi ennill cymaint o brofiadau o ymgymryd â’r rôl hon. Rwyf wedi bod yn hynod awyddus i fynd ar gyrsiau hyfforddi, ac yn ceisio defnyddio’r cyngor a’r hyfforddiant er budd ymarferol.

Mae cynnig lleoliad Maethu Mam a’i Babi wedi cael effaith enfawr ar ein bywyd beunyddiol, ac yn aml iawn mae’n rhaid i chi ddysgu meddwl ar eich traed, ac ar adegau gall y rôl fod yn rhwystredig yn ddibynnol ar faint o oruchwyliaeth a chefnogaeth sydd ei angen ar y mamau ifanc hyn.

Mae rhoi gofod ac amser iddynt ddysgu sgiliau magu plant yn bwysig iawn. Maent wedi rhoi cymaint yn ôl i ni ac wedi dysgu aml i wers bywyd i ninnau hefyd. Mae tynnu allan ac ail-ddarganfod y person ifanc ar y lefel maent yn gyfforddus ag e wedi bod yn gromlin ddysgu fawr i ni, ac yn arbennig dysgu bod yn rhaid i mi adael iddyn nhw ddysgu sut i sefyll ar eu traed eu hunain, a pheidio â gwneud popeth trostynt.

Mae’r ddau ohonom wrth ein boddau yn gwneud y gwaith hwn a byddem yn cynghori unrhyw un sydd awydd maethu fel hyn i gadw meddwl agored. Dechrau’n araf bach, efallai drwy gynnig cyfnod o seibiant byr, er mwyn i chi gael darganfod os mai dyma’r peth iawn i chi. Fyddwch chi ddim yn gwybod nes i chi roi cynnig arni, felly beth amdani?! Rhowch gyfle i chi eich hun benderfynu.

Noson Maethu yn Cafe Rio

Am ragor o fanylion dewch i’n noson wybodaeth ar Mawrth 13 yn Cafe Rio, Quay Street, Hwlffordd, 5 – 7.30pm. Os ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod a diddordeb, dewch a nhw i gwrdd a ni.

‘Yn bendant mae wedi newid ein bywydau er gwell’

“Nid yw plant maeth yn wahanol i’ch plant eich hun. Efallai na chawsant ddechrau bywyd fel plant eraill, ond ein gwaith ni yw rhoi’r bywyd hwnnw iddynt y mae pob plentyn yn ei haeddu,” meddai Natalie, rhiant maeth ers 13 mlynedd.

Maethodd Natalie a’i gŵr, Colin, eu plentyn cyntaf pan oeddent yn eu hugeiniau canol. Ers hynny, maent wedi maethu ugain o blant eraill, rhwng 0 a 18 oed. Bu’r mwyafrif yn lleoliadau hirdymor, gyda’r hwyaf am wyth mlynedd. Mae gan y ddau hefyd ferch a dau fab eu hunain, sy’n bymtheg, naw ac wyth oed.

Dywed y ddau, sy’n byw yn Rhosfarced, bod dechrau maethu’n ifanc, a magu eu plant eu hunain gyda’u plant maeth, wedi bod yn beth cadarnhaol iawn iddynt.

“Mae’n hawdd. Rydych yn cael amser i ofalu am eich plant eich hun. Mae’n union yr un fath,” meddai Natalie. “Rydym yn trin ein holl blant yn gyfartal, ac mae’r rheolau’r un fath i bawb. Mae’n wirioneddol bwysig, fel nad yw neb yn teimlo’n wahanol o gwbl.”

“Mae ein holl gyfeillion a theulu’n adnabod ein holl blant ac yn eu trin i gyd yr un fath,” ychwanegodd Colin, sy’n barafeddyg hyfforddedig. “Daw llawer ohonynt yn ôl dros y Nadolig ac ni allwch symud o anrhegion! Mae fel un teulu mawr hapus.”

Rhai yn eu harddegau oedd llawer o’r plant a groesawodd y pâr i’w cartref, a dywed Natalie eu bod yn llawer haws eu maethu mewn gwirionedd nag a feddylia rhai pobl.

“Ar y dechrau, gallant fod yn anodd a gwthio’u terfynau ond, os byddwch yn cysylltu â nhw, maent i ffwrdd ac yn annibynnol. Parchu eich gilydd yw popeth,” meddai.

“Mae ymddiried yn beth mawr. Rhaid i chi feithrin ymddiried; nad ydych yn mynd i’w trin yn wahanol na’u niweidio. Naw gwaith allan o ddeg, dim ond plant normal ydynt sydd angen sylw, cariad a rhai ffiniau.”

Mae’r ddau’n meithrin trwy Gyngor Sir Penfro. “Cawsom gymorth rhyfeddol gan y Cyngor,” meddai Colin. “Unrhyw bryd y gofynnom am gymorth neu os oedd arnom angen rhywbeth, fe’i cawsom. Mae’r berthynas a’r cymorth a gawsom yn wych. Mae’n helpu gwybod fod gennych y tîm wrth gefn.”
Mae’r ddau’n danbaid dros y buddiannau enfawr sy’n gallu dod gyda maethu i unrhyw aelwyd, ac maent yn annog pawb sy’n meddwl y gallent faethu i roi cynnig arni.

“Ond i chi fod ag empathi ac yn malio am eraill, ac yn deall sut mae pobl eisiau cael eu trin a’u parchu, mae’n wirioneddol werth ei wneud,” meddai Natalie.

“Mae’r holl adegau da ymhell uwchlaw’r darnau creigiog ar y dechrau. Os bydd unrhyw un yn meddwl y gallent ei wneud, dylent o leiaf roi cynnig arno. Yn bendant fe newidiodd ein bywydau ni er gwell.”

Meddai Colin; “Gallwch roi’r amgylchedd hwnnw i blant lewyrchu a gwrthdroi eu bywydau. Teimlodd rhai o’r plant a faethwyd gennym eu bod yn ddi-werth. Felly mae’n rhyfeddol eu gweld yn dod yn fwy hyderus, newid yn llwyr, a gwneud yn dda yn yr ysgol neu ddilyn y llwybr cul.

“Rydym wedi helpu eu gwrthdroi, gwneud rhywbeth o’u bywydau, cael addysg, cael swydd.

“Rwyf wedi caru pob munud ohono.”

Amaethwyr sy’n maethu

farmers who foster

Amaethwyr sy’n maethu – achos o sgiliau trosglwyddadwy

Ar bob fferm ddefaid, fe fydd adegau pan fo angen maethu ŵyn gan famogiaid nad ydynt yn famau iddynt, sefyllfa sydd â chanlyniad cadarnhaol gan amlaf.

Bydd Allison Silk yn defnyddio’r gyfatebiaeth hon i egluro rhai o’r pethau sy’n debyg rhwng ei gwaith fel ffermwr defaid ac fel gofalwr maeth i blant na all eu rhieni ofalu amdanynt ar yr adeg honno.

“Ar y fferm cawn anifeiliaid sy’n wael am fagu, ond nid yw’n golygu eu bod yn anifeiliaid drwg,” meddai Allison, wrth feddwl am ar rai o’r amgylchiadau sydd wedi dod â phlant dan ei gofal yn yr 28 mlynedd y bu’n maethu.

Mae Allison yn ffermio ger Camros, lle mae ganddi ddwy ddiadell o ddefaid Hampshire Down a Thorwen pedigri a lle mae’n bridio ceffylau Adran A a B a phwdls i’w harddangos.

Mae’r baradwys wledig hon, a’r gwerthoedd teuluol hen ffasiwn sy’n gyfystyr â ffermio, yn amgylchedd meithrinol i’r plant y bydd yn gofalu amdanynt.

“Rwyf wedi credu erioed mai’r teulu yw’r tîm cyntaf yr ydych ynddo a’n bod yn gwneud popeth a wnawn fel tîm. Gallai fod yn rhywbeth fel mynd â phaned o goffi allan i rywun sy’n nyrsio mamog wael neu orffen peth o’r gwaith fferm er mwyn i mi allu paratoi’r pryd nos,” meddai Allison.

Daeth ei phenderfyniad i ddod yn ofalwr maeth cofrestredig pan gyfarfu â merch mewn gofal maeth.

“Nid oedd ei lleoliad yn llwyddiant a theimlwn y gallem gynnig cartref iddi, ond heb sylweddoli ein bod yn gorfod cymhwyso’n gyntaf!”

Er na allent helpu’r ferch honno, dyna’r hwb i Allison a Brian, ei gŵr, benderfynu dod yn ofalwyr maeth, gan agor eu ffermdy a rannwyd gyda’u dwy ferch, Nadine a Hayley, i blant a phobl ifanc o 5 i 25 oed.

Ers hynny, maent wedi maethu gymaint o blant fel bod Allison wedi anghofio faint, ond mae llawer yn dal yn rhan o’r teulu, yn dod yn ôl gyda’u plant a’u partneriaid eu hunain.

“Mae 12 sy’n dal i edrych ar y fan hon fel eu cartref ac, os oes gwaith mawr yn digwydd ar y fferm, byddant i gyd yn dod,” meddai Allison. “Mae’n mynd braidd yn swnllyd pan fyddant yn dod oherwydd bod ganddynt bellach bartneriaid a phlant eu hunain, rhai’n dod â’u mamau eu hunain hyd yn oed.

“Byddwch yn cadw perthynas waith wirioneddol dda gyda’r rhan fwyaf o’r mamau a thadau, sy’n beth da oherwydd y bydd eu plant yn dychwelyd adref atynt maes o law.

“Rwy’n teimlo fy mod yn gwneud gwaith i’r rhieni hynny sydd, am ba reswm bynnag, yn methu gofalu am eu plant ar yr adeg honno. Rwy’n mynd i wneud y gorau a allaf iddynt hwy a’u plant. Ni allaf farnu er y bydd rhai o’r plant yn cyrraedd mewn cyflwr bregus iawn. Pe byddai’r sefyllfa’n eich pryderu, allech chi ddim gwneud y gwaith.”

Yn anffodus, bu farw Brian ond mae Allison, sy’n 61 erbyn hyn, yn dal i faethu. “Nid wyf hyd yn oed wedi meddwl am roi’r gorau iddi eto,” meddai’n bendant.

Mae’n annog ffermwyr eraill i ystyried maethu oherwydd ei bod yn credu fod ganddynt y cymeriadau ac amgylcheddau iawn i ofalu am blant.

“Nid yw ffermwyr yn rhoi’r gorau iddi os cawsant eu cicio gan fuwch yn y parlwr godro’r bore hwnnw neu os na allant gael eu cnydau oherwydd bod y tywydd yn ofnadwy. Byddant yn codi ac yn wynebu’r dydd a dyna’r hyn sydd raid ei wneud wrth faethu plant.”

Fe all ffermwyr gynnig rhinweddau a sgiliau ar ben gofynion sylfaenol gofalwyr maeth.

Dywed Cyngor Sir Penfro, sydd â phump o ffermwyr a thyddynwyr wedi cofrestru fel gofalwyr maeth, bod ffermydd yn rhoi profiad i blant o fywyd teuluol yn y wlad ac ymdeimlad cryf o gymuned.

“Mae ffermwyr yn gydnerth, byddant yn gweithio drwy heriau ac ni fyddant yn rhoi’r gorau iddi,” meddai Cheryl Morris, gweithiwr cymdeithasol gyda Thîm Lleoli â Theuluoedd yr awdurdod.

Mae’r strwythur a threfn reolaidd sy’n gyfystyr ag amaeth a rhwydwaith cryf o deulu a chyfeillion yn werthfawr hefyd.

Gyda phrinder gofalwyr maeth yn lleol ac yn genedlaethol, mae Cyngor Sir Penfro’n annog pobl i roi cynnig arni.

“Fe all fferm gynnig rhywle yn y wlad i’r plant hyn gilio iddo,” meddai Ms Morris.

Cafodd pawb hwyl ar ddiwedd haf 2018

Yn ddiweddar cynhaliodd Tîm Lleoli â Theuluoedd Sir Benfro achlysur traeth yn yr haf ar gyfer eu plant a theuluoedd maeth yn Hostel Ieuenctid Aberllydan. Yno cafwyd defnydd am ddim o’u cyfleusterau bendigedig gan Ruth Griffiths a’i thîm a weithiodd yn galed hefyd i sicrhau bod gweithgareddau’r noswaith wedi dilyn y cynllun!

Roedd y lleoliad yn berffaith. Mae’r hostel mewn sefyllfa ddelfrydol, o fewn cerdded i un o’r traethau tywodlyd gorau yn Sir Benfro, gyda digonedd o barcio a mynediad rhwydd i fygis a phlantos a’r holl betheuach sydd eu hangen ar gyfer prynhawn o hwyl ar y traeth.

Soniodd rhai o’n gofalwyr maeth am y ffaith bod y caffi a’r ardal awyr agored ar gael yn yr Hostel Ieuenctid gan gynnig encilfa i’w chroesawu gan y rhai oedd eisiau cornel ddistaw i ymlacio.

Dan heulwen braf i lawr ar y traeth, roedd pob math o gyfle i gael y plant i greu darnau o gelfyddyd, gan ddefnyddio’r deunyddiau naturiol a gawsom o’n cwmpas.

Wrth dynnu lluniau o’r cynlluniau cerrig crynion creadigol a’r lluniadau tywod a gynhyrchwyd gan y plant, mwynhaodd llawer ohonom wneud cysgodluniau’n portreadu teuluoedd maeth unigol.

Roedd y diwrnod yn rhan o achlysur hyrwyddo i dynnu sylw at faethu yn Sir Benfro a rhoi cyfleoedd newydd i ddenu trwy Weplyfr a thudalennau ein gwefan wrth ddangos gwaith celf y plant.

Meddai un gofalwr maeth “Roedd yn gyfle i gymdeithasu gyda gofalwyr maeth eraill ac i’n pobl ifanc gyfarfod pobl ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg iddynt hwy. Roedd yr achlysur yn hamddenol ac roedd yr awyrgylch yn hudolus.”

Ar y diwedd, casglodd pawb yn ôl yng nghanolfan maes yr Hostel Ieuenctid lle trefnwyd lluniaeth ar gyfer y chwilotwyr glan môr newynog.

Tra cymysgodd yr oedolion a gorffwys eu coesau blinedig, diddanodd y plant eu hunain gyda phob math o weithgareddau yn y brif neuadd gan roi ysbaid i’w chroesawu a chyfle i ddadflino ar ôl diwrnod llawn hwyl.

Diolch o galon i Ruth a’i staff am groeso mor gynnes. Fe wnaethom ni fwynhau ein hunain gymaint ein bod yn gobeithio dychwelyd ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer ein parti Nadolig.

I gael gwybod mwy am faethu, cysylltwch â fostering@pembrokeshire.gov.uk

Gwneud gwahaniaeth, newid bywydau a bod wrth galon maethu yn Sir Benfro.